Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar

Blant sy’n Derbyn Gofal

 

DYDD MERCHER 12 MAWRTH 2014

12.30-1.30

 

 

Aelodau’r Cynulliad yn bresennol:

 

David Melding AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar AC

Yn bresennol:

 

Deborah Jones, Prif Swyddog Gweithredol, Voices From Care

Rhian Williams, Cynorthwy-ydd Personol / Ysgrifennydd Gweinyddol, Voices From Care - yn cymryd y cofnodion

 

Trwy wahoddiad

Christopher Dunn, Cydlynydd Datblygu, Voices from Care

Nicola Mitchell - Aelod a Gwirfoddolwr, Voices From Care

Jeremy Thomas, Gweithiwr Adnoddau Plant, Maethu Cymru TACT.

Scott Ruddock, Rheolwr Ardal, Maethu Cymru TACT.

Debra Walker, Dirprwy Reolwr, Dwyrain Cymru, Maethu Cymru TACT.

C. K Kinsey, L. Lavender, S. Richards a J. Hopkins - Pobl Ifanc TACT

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan:

Mark Isherwood AC

Simon Thomas AC

Joyce Watson AC

 

Croeso a chyflwyniad gan y Cadeirydd

Dechreuodd David Melding y cyfarfod, ac estynnodd groeso cynnes i Faethu Cymru TACT. Arweiniodd DM gyflwyniadau rownd y bwrdd a rhoddodd drosolwg byr o ddiben y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy’n Derbyn Gofal.

COFNODION

Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2013 yn gofnod cywir.

MATERION YN CODI

Nid oedd dim materion yn codi.

Ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd

Cynigiwyd, ac eiliodd Mohammad Asghar AC, y dylid ailethol DM fel cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy’n Derbyn Gofal drwy gadarnhad, ac R. Williams yn Ysgrifennydd y grŵp.

Y wybodaeth ddiweddaraf am frodyr a chwiorydd

Rhoddodd DM wybod, yn dilyn y cyfarfod blaenorol o’r grŵp trawsbleidiol ar blant sy’n derbyn gofal ym mis Rhagfyr, a chan gyfeirio at yr argraffiad o erthygl a ysgrifennwyd yn y Western Mail ar 9 Ionawr eleni, bod sylw eithaf da wedi bod yn y wasg i’r diffyg arweiniad ar gadw brodyr a chwiorydd mewn gofal gyda’i gilydd, a oedd yn rhoi sail i adeiladu arno i’r grŵp.

Cyflwyniad - Sut y byddai ymestyn yr Oedran Gadael Gofal i 21 mlwydd oed o fudd i bobl ifanc

Rhoddodd DM drosolwg byr o’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a’r Cynllun ‘Pan Fydda i’n Barod’, gan ddweud bod gwelliant o ran ymestyn oedran gadael gofal i 21 yn cael ei gynnwys yn y Bil. Gwahoddodd DM JT i arwain y grŵp drwy’r cyflwyniad a diolchodd i Voices From Care am wahodd TACT i roi cyflwyniad a ffilm fer.

Rhoddodd JT wybod bod y ffilm "Llawer Rhy Ifanc" yn ffilm sy’n cynnwys pobl ifanc sydd wedi gadael gofal TACT Cymru neu sy’n gadael eu gofal yn fuan.  Roedd yn cynnwys pobl ifanc sydd wedi gallu aros gyda gofalwyr maeth ar ôl gadael gofal, yn ogystal â phobl ifanc y bu’n ofynnol iddynt adael gofal maeth yn 18 oed i fyw’n annibynnol. Ychwanegodd JT bod rhai pobl ifanc TACT sydd mewn lleoliadau sefydlog ar ôl bod yn 18 oed, yn frwd iawn dros helpu’r bobl ifanc hynny nad oeddent mewn lleoliadau sefydlog, a diolchodd i’r bobl ifanc hynny, yr oedd rhai ohonynt yn bresennol heddiw, am gyfrannu at wneud y ffilm fer am eu profiadau. Yna cyflwynodd y bobl ifanc a oedd yn bresennol, eu hunain yn bersonol.

Diolchodd DM i JT a’r bobl ifanc am ddangos ffilm bwerus iawn, a oedd yn cyffwrdd rhywun yn ei farn ef, am bobl ifanc mewn gofal yn siarad am eu problemau, ac ychwanegodd fod eu profiad uniongyrchol yn bwerus iawn.  Dywedodd DM, er gwaethaf newidiadau yn y gyfraith, ac yn ymarferol gallai’r newidiadau ddigwydd ychydig yn arafach, gofynnodd a fyddai modd i’r ffilm gael ei ddefnyddio yn gyhoeddus, gan y byddai’n hoffi anfon copi o’r ffilm i bwyllgorau, gweinidogion cabinet ac uwch weision sifil. 

Dywedodd JT, oherwydd bod rhai o’r bobl ifanc o dan 16 oed, y byddai’n rhaid i’w hawdurdodau lleol perthnasol roi caniatâd i hynny. Yna cafwyd trafodaeth fer ynghylch hyd a chynnwys y ffilm, a chytunwyd y byddai’r ffilm yn cael ei gadw ar yr un hyd.

Awgrymodd DJ y posibilrwydd o ddangos y ffilm mewn digwyddiad eiriolaeth sydd ar y gweill ym mis Mai, a gwahoddodd y bobl ifanc a oedd yn bresennol heddiw i fod yn bresennol hefyd, am ei bod yn teimlo ei bod yn bwysig bod eu lleisiau’n cael eu clywed.

 Dywedodd JT, gan fod pobl ifanc yn cyfrannu at gymdeithas, bod angen i ni eu cynorthwyo. Nododd SR fod y bobl ifanc sy’n bresennol heddiw yn cynrychioli barn pobl ifanc mewn gofal a oedd yn llai rhugl ac nad oedd yn gallu bod yn bresennol heddiw.  Dywedodd SR y dylai cymorth fod ar gael yn gyffredinol i bobl ifanc sy’n derbyn gofal, ac nid i’r bobl ifanc sy’n fwyaf agored i niwed yn unig, ac roedd yn teimlo ei fod yn fater o lwc o ran pa bobl ifanc sy’n parhau mewn gofal ac sy’n gwneud yn dda iawn, a pha rai nad ydynt, ac nad oes cydraddoldeb o ran hawl i hynny. 

Gofynnodd DM sut y gallai ef gynorthwyo yn yr ymgyrch. Dywedodd CK bod angen cyllid ar gyfer gofalwyr maeth i barhau i gynnig y lleoliadau, a chytunodd S Richards y byddai’n gwneud llawer o wahaniaeth pe bai cyllid ar gael, ond beth am y gefnogaeth, gan ychwanegu, pan fydd person ifanc mewn teulu ac yn 18 mlwydd oed a throsodd, nid ‘pob hwyl iti’ yw eu hanes pan fyddant yn gadael cartref, ond pan fyddant mewn lleoliad maeth, dyna yw eu hanes yn aml, ac nid yw rhai pobl ifanc yn siarad â’u teuluoedd geni, felly pan fyddant yn gadael eu lleoliad maeth maent ar eu pen eu hunain. Dywedodd DW fod awdurdodau lleol yn gweithredu yn wahanol iawn i’w gilydd, ac mae ganddynt gynlluniau gwahanol, ac mae’n teimlo ei fod yn fater o lwc, gan nad oes mynediad cyfartal i’r gefnogaeth pan fydd person ifanc dros 18 mlwydd oed.  

Cododd DM y cwestiwn, beth fyddai’n digwydd pe bai gofalwr maeth yn penderfynu peidio â chadw cysylltiad â’r person ifanc. Dywedodd JT y dylai pethau fod yn iawn os oedd cysylltiad a chymorth yn bod, ac ychwanegodd y dylai pobl ifanc gael mwy o gymorth ar ôl 18 a dim llai o gefnogaeth. Nododd JH ei fod ef yn mynd i’r brifysgol, ac roedd yn bryderus iawn ynghylch ble y byddai’n mynd yn ystod y gwyliau.

Dywedodd JT y byddai gwelliant i’r Bil  Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn caniatáu i awdurdodau lleol ymestyn oedran gofal maeth i 21 mlwydd oed. Ni fyddai, fodd bynnag, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny, ond gobaith TACT oedd y byddai llawer o awdurdodau yn barod i gynnig yr estyniad hwn, ond roedd o’r farn mai dim ond cyflwyno dyletswydd gyfreithiol a fyddai’n golygu bod pobl ifanc ledled Cymru yn cael y cyfle i aros mewn maeth gofal.

Dywedodd DM, dim ond oherwydd bod cyfraith wedi gwella, nid oedd o reidrwydd yn golygu ei bod wedi gwella’n ymarferol, a theimlai bod cyllid yn elfen allweddol.  Roedd SR yn cytuno, ac ychwanegodd, pe bai cyllid ar gael, y dylai fod wedi’i neilltuo, ac na ddylai fod ar gael i rywun ei gymryd fesul tipyn.

Dywedodd DM bod llawer iawn wedi’i ddysgu yn sgîl y cyfarfod hwn, a bod angen i rai sy’n llywio polisïau allweddol gael gwybod am yr hyn a drafodwyd.

Cafwyd trafodaeth fer ynghylch cynnal digwyddiad yn yr Oriel, yn y Senedd, ble y byddai pobl ifanc sy’n gadael gofal yn cyflwyno areithiau ac yn cwrdd â gwleidyddion.

CAM I’W GYMRYD:      SR i anfon y DVD, wedi’i fformadu, ymlaen i DM ar gyfer ei ddosbarthu i’r prif aelodau.

Diolchodd DM i bawb am ddod i’r cyfarfod unwaith eto.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Nododd RW y byddai’r cyfarfod nesaf o’r Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy’n Derbyn Gofal yn cael ei gynnal am 12.00, ddydd Mercher 7 Mai.

 

Gan nad oedd unrhyw fater arall i’w drafod, daeth y cyfarfod i ben am 1.30pm.